BBC Cymru Fyw

Rhybudd melyn am eira a rhew

Published
image copyrightMet Office
image captionMae yna rybudd o rew ac eira yng Nghymru

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn 'byddwch yn barod" ar gyfer rhew ac eira yng Nghymru.

Bydd y rhybudd yn para tan hanner dydd dydd Sul, ac mae disgwyl cawodydd o eira yn bennaf yn y gorllewin.

Fe allai hyd at 2cm o eira ddisgyn ar dir isel, ac mae posibilrwydd o rew wrth i'r tymheredd oswtwng.

Hefyd mae rhagolygon o wyntoedd cryfion o hyd at 60mya mewn ardaloedd arfordirol yn y gorllewin a'r gogledd.