Cyngor i drafod cais i agor clwb nos ym Mhwllheli
- Published
Mae disgwyl i aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd roi sêl bendith ddydd Llun ar gynllun i droi adeilad gwag ger canol tref Pwllheli yn fwyty a chlwb nos.
Eisoes mae Cyngor Tref Pwllheli wedi cefnogi'r fenter ac mae'r cyngor sir wedi derbyn dros 60 o lythyrau yn cefnogi'r cynllun.
Y bwriad ydi creu atyniad fydd yn rhoi cyfle i fandiau lleol berfformio, yn ogystal â chynnig adloniant i bobl leol ac ymwelwyr.
Tri o bobl leol sydd tu cefn i'r fenter, Victoria Morris a dau frawd, Richard a David Jones.
"Y bwriad ydi cael lle i bobl yr ardal ddod at ei gilydd, pobl ifanc yn cael cyfle i ymlacio a chael amser da, " meddai David Jones.
'Safonol'
"Da ni'n gobeithio y bydd digon o bobl leol yn cefnogi, a da ni'n gobeithio tynnu pobl o ardaloedd eraill.
"Bydd o hefyd yn rhoi llwyfan i fandiau ifanc."
Mae'r cyngor wedi derbyn 10 llythyr yn gwrthwynebu'r cais.
Mae rhai yn poeni am sŵn, eraill yn poeni am ymddygiad gwrth-gymdeithasol, ac eraill yn dweud nad ydi'r adeilad yn addas.
Yn ôl y cynghorydd Alan Williams o Gyngor Tref Pwllheli mae o'n gobeithio y bydd y fenter yn un safonol, yn lle i gymdeithasu, gydag ystafelloedd cymunedol.
"Rwy'n gobeithio y bydd o'n le lle bydd talent leol yn cael cyfle i ddatblygu.
"Dwi'n credu bod yna wir le i glwb dawnsio safonol, dwi'n ymwybodol yr oedd pobl oedd yn mynd i Gaernarfon i Cofi Roc, ac mae Cofi Roc yn cau, ac mae yna rhai pobl ifanc yn mynd i Fanceinion ac i Lerpwl. "
"A dwi'n meddwl bydd o fudd i bobl fydd yn dod yma ar eu gwyliau."