Dur: Cynhyrchwyr yn galw am gymorth
- Cyhoeddwyd

Mae cynhyrchwyr dur yn gofyn am gymorth er mwyn rhwystro gormod o ddur rhad rhag cael ei fewnforio i'r Deyrnas Unedig. Dywed cynhyrchwyr fod hyn yn creu dirwasgiad yn y diwydiant.
Mae cwmnïau Tata a Clesa yn cyflogi dros 7,500 o bobl ar eu safleoedd yng Nghymru.
Fe wnaeth y diwydiant adeiladu grebachu yn sgil y dirwasgiad. Yn ei dro, gan fod dur yn rhan allweddol o'r diwydiant adeiladau, fe ddioddefodd y diwydiant hwnnw hefyd.
Fe wnaeth 400 o weithwyr Tata golli eu swyddi'r llynedd, ond er hyn, mae Celsa a Tata wedi parhau i fuddsoddi yn eu gwahanol safleoedd yng Nghymru.
Fe wnaeth y diwydiant fwynhau peth ffyniant yn 2013, ond nid felly'r llynedd. Dywed cynhyrchwyr fod dur rhad o China yn tanseilio'r diwydiant.
Dywed cynhyrchwyr yn y DU nad yw'r gystadleuaeth yn un deg, gan fod Llywodraeth China yn cefnogi'r diwydiant yno.
Dywed y cwmnïau fod cost uchel ynni a threthi busnes hefyd yn broblem ac yn ychwanegu at y gost o gynhyrchu dur. Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Prydain a'r Undeb Ewropeaidd i ymyrryd.