Addysg: Llafur yn amddiffyn record
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis wedi ymateb yn chwyrn i feirniadaeth gan Ysgrifennydd Cymru o safonau addysg Cymru
Fe ddywedodd Stephen Crabb y byddai gan rieni yn Lloegr le i bryderu petai arweinydd Lafur, Ed Miliband yn mabwysiadu dulliau Llywodraeth Cymru o ymdrin ag addysg.
Ond yn ôl Mr Lewis mae hon yn ymgais arall i ymosod ar Gymru yn dilyn y ffrae ynglŷn ag iechyd, ac mae wedi disgrifio cynlluniau diweddara'r Ysgrifennydd Addysg yn Lloegr fel rhai tila.
Fe wnaeth Mr Crabb ei sylwadau ym mhapur newydd y Sunday Times.
Ond dywedodd Mr Lewis fod hwn yn ymosodiad arall ar Gymru fel rhan o ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr.
Lluosogi
"Mae Ysgrifennydd Cymru wedi derbyn gorchymyn i chwarae ei ran o," meddai Mr Lewis.
Ddydd Sul dywedodd Nicky Morgan, Ysgrifennydd Addysg y Ceidwadwyr, y byddai hi yn disgwyl i bob plentyn 11 oed wybod ei dablau lluosogi o gof, ac i allu cwblhau symiau lluosogi cymhleth a bod â'r gallu i ddarllen nofel.
Mewn ymateb dywedodd Mr Lewis: "Rwy'n hynod o uchelgeisiol dros y system addysg yng Nghymru, dyna pam rwyf am ddysgu o'r goreuon.
"Mae rhaglen Nicky Morgan ar gyfer diwygio'r drefn - mwy o dablau lluosogi yn ymateb tila i'r her sy'n wynebu ein heconomi.
"Mae hi rŵan yn 2015 nid 1815."
Mae disgwyl i'r prif weinidog David Cameron amlinellu mwy o bolisïau y Ceidwadwyr ar addysg ddydd Llun.