Oedi ambiwlans: AS o Leogr yn galw am ymchwiliad
- Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol yn Sir Amwythig wedi galw ar i adrannau iechyd ymchwilio i effaith oedi mewn ysbytai yng Nghymru ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr.
Dywed Daniel Kawczynsk AS fod ciwiau ambiwlans y tu allan i Ysbyty Maelor, Wrecsam wedi gorfodi parafeddygon i fynd a chleifion i Ysbyty Brenhinol Amwythig, gan roi pwysau ar adnoddau yno.
Mae Ysbyty Maelor yn gwasanaethu rhan o boblogaeth gogledd Sir Amwythig.
Yn ôl ffigyrau gafodd eu cyhoeddi yn yr hydref roedd 15% o ambiwlansys o sir Amwythig yn wynebu oedi o awr neu fwy yn Ysbyty Maelor.
Yn ôl Caron Morton swyddog gyda grŵp Comisiynu Clinigol sir Amwythig: "Roedd dau o gleifion o sir Amwythig oedd wedi dewis mynd i Wrecsam, wedi gorfod aros dros bedair awr mewn ambiwlans.
"Mae hynny'n golygu rhwng pedair a phum awr o wasanaeth ambiwlans yn cael ei golli, ac nid yw o chwaith y math o brofiad y byddwn ni yn ei ddymuno o ran cleifion o Sir Amwythig. "
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn fater i'r Bwrdd Iechyd Lleol a'r gwasanaeth Ambiwlans.