67 o swyddi yn y fantol yn Nhredegar
- Published
image copyrightA G Barr
Bydd cwmni cynhyrchu diodydd yn cau ffatri ym Mlaenau Gwent yr wythnos hon, ac fe allai'r penderfyniad olygu colli 67 o swyddi.
Fe fydd cwmni A G Barr yn cau ffatri Tredegar, gan symud y gwaith cynhyrchu i Milton Keynes yn Lloegr.
Y llynedd fe ddywedodd y cwmni fod y penderfyniad wedi ei wneud yn dilyn ''adolygiad cynhwysfawr''.
Dywedodd A G Barr y byddai'r gweithwyr yn Nhredegar yn cael y cyfle i weithio ym Milton Keynes pan fyddai 27 o swyddi newydd yn cael eu creu yno.
Meddai llefarydd ar ran y cwmni: ''Rydym yn diolch i'n gweithwyr yn Nhredegar am eu hymroddiad a phroffesiynoldeb yn ystod ag ar ôl y cyfnod ymgynghori, ac rydym yn cydnabod yn llawn y cyfraniad y mae'r tîm wedi ei wneud i lwyddiant y busnes.''