Heddluoedd: Cwynion ar gynnydd
- Cyhoeddwyd

Mae cwynion yn erbyn dau o heddluoedd Cymru wedi cynyddu, yn ôl Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.
Roedd cwynion yn erbyn Heddlu De Cymru wedi cynyddu o 15% i 721 yn 2013/14, sef yn un cynydd a'r lefel ar draws Cymru a Lloegr.
Gwelodd Heddlu Gogledd Cymru gynydd o 8%, gan dderbyn 330 o gwynion. Fe wnaeth Heddlu Gwent dderbyn 783 o honiadau yn eu herbyn, a 311 o gwynion.
Fe welodd Heddlu Dyfed Powys ostyngiad o 1% yn nifer y cwynion - i lawr i 598.
Ar hyd Cymru a Lloegr roedd 34,863 o gwynion - cynydd o 15%.