Ystyried cau toiledau cyhoeddus Wrecsam

toiledau

Mae cynghorwyr yn trafod opsiynau, gan gynnwys llai o doiledau yn ogystal â chodi tâl am ddefnyddio'r rhai fydd yn parhau ar agor.

Cafodd cynghorwyr Wrecsam wybod bod y gost o redeg pump o gyfleusterau cyhoeddus yng nghanol y dref yn costio tua £ 60,000 y flwyddyn.

Mae adroddiad hefyd yn argymell gweithio gyda busnesau yn y dref er mwyn gwneud mwy o'u toiledau ar gael i'r cyhoedd.

Gallai arbedion o hyd at £ 13,000 y flwyddyn gael eu gwneud drwy ddymchwel toiledau ym Modhyfryd ac fe fyddai hynny'n rhyddhau amser i'r cynorthwywyr toiledau ganolbwyntio ar doiledau eraill, medd yr adroddiad.

Gallai Toiledau yn Stryd Henblas gael eu hadnewyddu fel rhan o'r cynigion.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.