Cyffur lewcemia newydd ar gael gan y gwasanaeth iechyd
- Cyhoeddwyd

Fe fydd cyffur sy'n gallu trin math prin o lewcemia ar gael i gleifion yng Nghymru, wedi cadarnhad gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo argymhelliad gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru y dylid cynnig y cyffur 'ponatinib' i gleifion sy'n dioddef o lewcemia myeloid cronig, pan fydd triniaethau eraill yn methu.
Mae'r penderfyniad yn golygu mai Cymru fydd yr unig ran o'r DU i ddarparu'r cyffur i gleifion y gwasanaeth iechyd.
Dywedodd Mr Drakeford: "Rwy'n falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnig y cyffur hwn i oedolion â lewcemia myeloid cyfnod cronig, cyfnod carlam neu gyfnod blast, yn dilyn argymhelliad Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru.
"Rwy'n falch bod gennym ni yng Nghymru system gadarn lle gall pobl gael triniaethau effeithiol ar gyfer canser a chyflyrau eraill sy'n peryglu bywyd."