Cymeradwyo cais am glwb nos newydd ym Mhwllheli

  • Cyhoeddwyd
Clwb nos
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r adeilad sy'n agos i ganol Pwllehli yn wag ar hyn o bryd

Mae aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd wedi rhoi sêl bendith ar gynllun i droi adeilad gwag ger canol tref Pwllheli yn fwyty, bar a chlwb nos.

Roedd swyddogion cynllunio wedi awgrymu cymeradwyo'r cynllun gydag amgylchiadau llym ynglŷn â sŵn. Anogwyd y datblygwyr i sicrhau bod arwyddion yn ddwyieithog yn ogystal.

Tri o bobl leol sydd tu ôl i'r fenter, Victoria Morris a dau frawd, Richard a David Jones.

Yn dilyn y cyfarfod ddydd Llun, dywedodd y brodyr eu bod yn falch iawn bod y fenter wedi cael ei gymeradwyo.

Mae'r tri wedi gwario miloedd o bunnoedd yn barod yn cyflogi ymgynghorwyr i'w cynghori ar sŵn.

Roedd y cyngor wedi derbyn dros 60 o lythyrau gan aelodau o'r cyhoedd yn cefnogi'r cynllun, gyda dim ond 10 yn gwrthwynebu'r cais.

Fe fydd 20 o swyddi'n cael eu creu fel rhan o'r cynllun, a'r bwriad yw creu atyniad fydd yn rhoi cyfle i fandiau lleol berfformio.

Gobaith y cynllunwyr yw bydd y clwb yn agor ym mis Mehefin.