Toriadau i wasanaethau yn 'difetha'r byd celfyddydol'
- Cyhoeddwyd

Mae'n bosib na fydd effaith toriadau i wasanaethau addysg cerddoriaeth yn cael eu gweld am 15 mlynedd, yn ôl prif weithredwr Opera Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd David Pountney wrth BBC Cymru bod y sefyllfa yn "difetha bywyd cerddorol" ar y lefel isaf.
Mae rhai awdurdodau lleol wedi torri cyllidebau am gymhorthdal i wersi cerddoriaeth, ac mae cerddorfeydd a chorau ieuenctid wedi derbyn llai o arian cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn dweud bod pwysau ariannol yn golygu bod angen ail-ystyried pa wasanaethau all gael eu cynnig gan gynghorau.
Dywedodd Mr Pountney bod y toriadau yn "bryderus iawn".
"Dwi'n deall yn iawn fod cynghorau mewn sefyllfa ariannol anodd iawn," meddai.
"Ond mae angen i ni fod yn ofalus iawn am dynnu ein bywydau celfyddydol yn ddarnau.
"Os ydych chi'n dechrau gwneud hynny mewn addysg a gwasanaethau cerddorol ar y lefel isaf, yna mae'n sicr o gael effaith yn hwyrach ymlaen."
Cafodd cyllidebau celfyddydol awdurdodau Cymru eu torri o 14% yn 2014/15 o'i gymharu â 2013/14.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu bod yn derbyn pwysigrwydd gwasanaethau cerddorol, ond bod angen "gwerthuso" pa wasanaethau mae disgwyl i awdurdodau eu cynnig yn sgil toriadau mawr.
Ychwanegodd: "Mae awdurdodau lleol yn parhau i wneud pob dim y gallan nhw i leihau toriadau i wasanaethau, ond y gwir yw bod ystod eang o wasanaethau nad ydyn nhw'n statudol wedi eu rhoi dan bwysau wrth i gynghorau geisio amddiffyn gwasanaethau statudol fel addysg a gofal cymdeithasol."