Gwrthwynebu cais drilio nwy Pontrhydyfen

  • Cyhoeddwyd
Foel Fynyddau ForestFfynhonnell y llun, Jaggery/Geograph

Mae rhwng 80 a 100 o bobl wedi cyfarfod ym Mhontrhydyfen nos Lun i wrthwynebu cais i chwilio am nwy siâl ger y pentref.

Dyma'r ail waith i gwmni UK Methane Ltd wneud cais i ddrilio ar dir coedwigaeth, tua 300 metr uwchben y pentref.

Cafodd y cais blaenorol ei wrthod gan gyngor Castell Nedd Port Talbot oherwydd pryder am sŵn y gwaith drilio.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Bethan Jenkins AC yn un o'n rhai fuodd yn siarad yn y cyfarfod

Mae'r cwmni eisiau caniatâd i ddrilio er mwyn chwilio am nwy methan a siâl o dan y ddaear.

Mae trefnwyr y cynllun, Afan-Nedd Against Fracking yn poeni y gall y drilio arwain at ffracio yn y dyfodol.

Mae'r UK Methane yn dadlau eu bod nhw wedi drilio mewn sawl safle yn ne Cymru dros y blynyddoedd diwethaf heb unrhyw broblemau.

Mae'r ymgynghoriad yn parhau tan Chwefror 19.