Rhybudd am rew yng ngorllewin Cymru
- Cyhoeddwyd
Eira ar fryniau Rhosfach, Sir Benfro, fore Mawrth
Mae rhybudd melyn, 'bod yn barod' am rew, wedi'i gyhoeddi ar gyfer rhannau gorllewinol o Gymru wrth i'r tywydd gaeafol barhau.
Mae perygl o rew ar ffyrdd sydd heb eu graeanu fore Mawrth, a hynny wedi i gawodydd gaeafol adael Cymru dros nos.
Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio i gymryd gofal, gan fod yn ymwybodol o amodau teithio anodd neu beryglus posib.
Daw rhybudd y Swyddfa Dywydd wedi i eira gau nifer o ysgolion yng Ngwynedd a Cheredigion ddydd Llun.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer ardaloedd yn y gogledd orllewin, de orllewin a chanolbarth Cymru, tan 10:00 ddydd Mawrth.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf i'w weld ar wefan y Swyddfa Dywydd.
Straeon perthnasol
- 2 Chwefror 2015