Llywodraeth leol: 'Mater o ddiwygio, nid ad-drefnu'
Gan James Williams
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Leighton Andrews, wedi cyflwyno cynigion i gyfyngu tymhorau cynghorwyr a gostwng cyflogau arweinwyr ac aelodau cabinet cynghorau fel rhan o newid i'r system lywodraeth leol yng Nghymru.
"Mater o ddiwygio... nid ad-drefnu", yw nod papur gwyn y llywodraeth, meddai Mr Andrews.
Mae'n addo torri costau a "herio" diwylliant llywodraeth leol, yn ogystal â lleihau'r nifer o gynghorau.
Mae eisoes wedi gwrthod cynigion i uno'n wirfoddol oherwydd nad oedd yr un o'r cynigion yn cyrraedd y meini prawf er mwyn symud ymlaen.
'Adfer ymddiriedaeth a hyder'
Mae'r papur gwyn yn amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i Gomisiwn Williams a alwodd am gwtogi nifer y cynghorau i rhwng 10 a 12 ym mis Ionawr 2014.
Dywedodd Mr Andrews ei fod "eisiau i bob cyngor fod yn rhagweithiol, ac yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern a hygyrch o ansawdd uchel gyda'u cymunedau".
Ychwanegodd: "Rydym yn cynnig y dylid recriwtio prif weithredwyr drwy broses recriwtio genedlaethol ac y dylid diffinio rôl a chyfrifoldebau prif weithredwyr mewn awdurdodau lleol drwy ddeddfwriaeth."
Bydd Mr Andrews yn gwneud datganiad llafar gyda mwy o fanylion yn y senedd brynhawn Mawrth, ond mae BBC Cymru ar ddeall y bydd yn cynnig cyfyngu ar ba mor hir y gall unigolyn fod yn gynghorydd.
Eisoes mae'r datganiad ysgrifenedig yn dweud y bydd yn adolygu'r gydnabyddiaeth ariannol sy'n cael ei gynnig i gynghorwyr, arweinwyr ac aelodau cabinet cynghorau gyda'r nod o leihau'r gost o redeg llywodraeth leol.
"Mae'n fater o ail-adeiladu cynghorau o'r tu fewn allan, gan adfer ymddiriedaeth a hyder mewn llywodraeth leol a chreu perthynas newydd rhwng cynghorau a'r bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu," medd Mr Andrews.
Straeon perthnasol
- 27 Ionawr 2015
- 8 Rhagfyr 2014
- 28 Tachwedd 2014
- 15 Hydref 2014
- 31 Ionawr 2014
- 20 Ionawr 2014