Grace Jones i berfformio yng Ngŵyl Rhif 6
- Published
Mae Gŵyl Rhif 6 wedi cyhoeddi rhai o'r prif artistiaid ar gyfer y digwyddiad rhwng 3-6 Medi eleni.
Daeth cadarnhad gan y trefnwyr y bydd Grace Jones a Belle & Sebastian yn arwain ar y prif lwyfan yn ystod y bedwaredd ŵyl i'w chynnal ym mhentref Portmeirion.
Mae Belle & Sebastian wedi mwynhau gyrfa o 19 mlynedd yn y diwydiant a newydd gyhoeddi eu nawfed albwm.
Mae'r gantores, model ac actores Grace Jones yn enwog am ei sioeau llwyfan trawiadol.
Ymhlith yr artistiaid eraill a gyhoeddwyd yn y rhestr gyntaf o berfformwyr mae enillwyr Gwobr Mercury 2014, Young Fathers, a'r bardd gafodd ei henwebu am yr un wobr, Kate Tempest.
'Cryfach nag erioed'
Dywedodd cyfarwyddwr yr Ŵyl, Luke Huxham: "Mae'r don gyntaf o artistiaid yn gryfach nag erioed ac mae llawer mwy i ddod gan gynnwys trydydd prif artist.
"Mae gennym lawer mwy i'w gyhoeddi ar ochr diwylliant, celfyddydau a bwyd sy'n rhannau fwyfwy pwysig o brofiad Gŵyl Rhif 6, gan gynnwys ambell syrpreis - rwy'n credu y gallwn ni ddweud mai hon fydd yr ŵyl orau eto."
Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws y safle ym Mhortmeirion, ac fe fydd artistiaid Cymraeg yn perfformio ar lwyfan arbennig yn y Cae Mawr.
Cafodd nifer o artistiaid cynllun Gorwelion - sy'n cael ei redeg ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru - gyfle i berfformio yn yr ŵyl yn 2014.
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Medi 2014
- Published
- 13 Medi 2013