Caerdydd yn arwyddo Eoin Doyle, Matthew Kennedy a Conor McAleny

Eoin Doyle Image copyright Getty Images
Image caption Mae Eoin Doyle wedi sgorio 25 o goliau i Chesterfield yn barod y tymor yma

Mae tîm pêl-droed Dinas Caerdydd wedi arwyddo'r ymosodwr Eoin Doyle o Chesterfield am ffi a gredir i fod oddeutu £1m.

Mae'r Gwyddel, sydd wedi sgorio 25 o goliau yn barod y tymor yma, yn ymuno ar gytundeb sy'n rhedeg nes haf 2018.

"Pan glywais am ddiddordeb Caerdydd, ni allwn ei anwybyddu," ddywedodd Doyle.

Mae'r clwb wedi arwyddo dau chwaraewr o Everton yn ogystal, yr asgellwr Matthew Kennedy ar gytundeb parhaol a'r ymosodwr Conor McAleny ar fenthyg.

Mae Kennedy, 20 oed, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner, tra bydd McAleny yn ymuno â'r clwb nes diwedd y tymor.