Pont yn Aberdaron ar gau ar ôl ei difrodi gan lori
- Published
Mae pont dros Afon Daron yn Aberdaron ar gau ar ôl iddi gael ei difrodi gan lori artig nos Lun.
Roedd gyrrwr y lori o Grimsby wedi mynd ar goll yn teithio o Abersoch i Bwllheli, a cheisiodd groesi'r bont yn Aberdaron.
Aeth y cerbyd yn sownd ac mae darn tua 20 metr o wal y bont wedi ei ddymchwel.
Cafodd yr heddlu a'r cyngor eu galw nos Lun ac roedd rhaid defnyddio offer mecanyddol arbenigol i ryddhau'r lori o'r bont.
Dywedodd Gohebydd BBC Cymru, Alun Rhys, fod yr olygfa fore Mawrth yn "llanast".
Dywedodd y cynghorydd lleol, Gareth Roberts, y byddai adfer y bont yn cymryd amser am ei bod wedi bod yn rhan o'r pentref am dros 200 mlynedd.
Mae'r bont yn strwythur rhestredig a'r gred yw y bydd rhaid archebu deunydd arbenigol i'w thrwsio.
Gallai hyn fod yn newyddion drwg i drigolion y pentref sy'n dibynnu ar dwristiaeth, gyda thymor gwyliau'r ardal yn dechrau dros Ŵyl y Pasg.
Yn y cyfamser, fe fydd rhaid i drigolion y pentref deithio trwy bentref Y Rhiw fydd yn ychwanegu hyd at bum milltir at y daith.