Dysgu Cymraeg cyn 'Steddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd

Mae 'na gynnydd wedi bod yn y galw am wersi Cymraeg yn ardal Caerffili cyn i Eisteddfod yr Urdd ymweld â'r ardal ddiwedd mis Mai, yn ôl y mudiad.
Mae'r ŵyl eleni yn cael ei chynnal ar safle hanesyddol Llancaiach Fawr ger Nelson - ac mae'r staff yno ymhlith rhai o'r dysgwyr newydd.
Mae'r mwyafrif o'r staff sydd yn gweithio yn Llancaiach Fawr yn Ddi-Gymraeg ond ers mis Medi mae nifer wedi dechrau gwersi Cymraeg gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn barod ar gyfer yr Eisteddfod.
'Wastad wedi bod eisiau dysgu'
Diane Walker yw Rheolwr Llancaich Fawr, a dywedodd hi:
"Mae tri ohonom o Lancaiach Fawr wedi cychwyn ar ein taith chwe blynedd i fod yn rhugl yn y Gymraeg ers mis Medi - er fy mod wedi fy ngeni a magu yn Lloegr, mae fy mam yn Gymraes Gymraeg o Abergele a dwi wastad wedi bod eisiau dysgu'r Gymraeg.
"Bydd ugain o aelodau eraill o staff yn cychwyn cwrs blasu ddiwedd Chwefror fel y bydd ganddynt Gymraeg sylfaenol i groesawu ymwelwyr yr Urdd i'n safle hanesyddol."
'Cyfle gwych'
Ychwanegodd Anwen Rees, Swyddog Hyfforddiant a Hyrwyddo Cydraddoldeb Cyngor Caerffili:
"Mae cwrs mynediad ychwanegol wedi ei gynnal ym mis Medi, gan fod cynnydd yn y galw am wersi Cymraeg yn yr ardal, sydd yn cynnwys staff Llancaiach Fawr - rwyf yn ymwybodol hefyd fod criw o Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn awyddus i ddysgu Cymraeg yn barod am yr Eisteddfod.
"Mae'n gyfle gwych i ni hyrwyddo ac annog pobl leol i ddysgu Cymraeg, ac mae'r awydd i ddysgu a'r brwdfrydedd yna.
"Byddwn yn cychwyn cwrs blasu i fwy o staff Llancaiach Fawr cyn bo hir, fydd yn dysgu brawddegau syml iddynt ond hefyd yn cyflwyno hanes y Gymraeg a'r diwylliant iddynt."
Bydd Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch 2015 yn cael ei chynnal rhwng 25 - 30 Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2014