Cyhoeddi cynllun Dinasoedd Mawr y Gorllewin

  • Cyhoeddwyd
Dinasoedd Mawr y GorllewinFfynhonnell y llun, Great Western Cities

Mae manylion sut gall Caerdydd, Casnewydd a Bryste gydweithio fel rhanbarth dan y teitl Dinasoedd Mawr y Gorllewin wedi eu cyhoeddi.

Mae arweinwyr y dinasoedd yn gobeithio y bydd y datblygiad yn hybu'r economi'r rhanbarth ac yn helpu i ddatblygu ynni adnewyddadwy.

Mae'r logo ar gyfer rhanbarth Dinasoedd Mawr y Gorllewin hefyd wedi'i gyhoeddi.

Daw'r cyhoeddiad fel cam pellach o'r ymgais gan gynghorau bob ochr i'r ffin i gydweithio er mwyn gallu cystadlu â dinasoedd gogledd Lloegr.

Mae'r dinasoedd eisoes wedi ffurfio partneriaeth i ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth.

Ym mis Tachwedd, dywedodd arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: "Os nad yw Caerdydd yn gweithio gyda chanolfan fawr fel Bryste, bydd Caerdydd ar ei hôl hi yn economaidd, ond gyda'i gilydd gallant lobïo llywodraeth y DU ar gyfer buddsoddiadau."

Mae'r adroddiad wrth i'r cynllun gael ei lansio yn dweud bod y tair dinas eisoes ymysg y mwyaf llwyddiannus ym Mhrydain, gyda chyfanswm allbwn economaidd o £58 biliwn, ond y gallan nhw wneud yn well.

Pwerdy economaidd tu allan i Lundain

Dywed bod yn rhaid i fuddsoddiad yn y rhanbarth ganolbwyntio ar wella cysylltedd, gwireddu "potensial ynni" Afon Hafren a Môr Hafren a hybu'r rhanbarth fel lleoliad o safon ar gyfer busnes rhyngwladol.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale, y byddai'r rhanbarth Dinasoedd Mawr y Gorllewin yn cyd-fynd â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a phe bai'r cynllun ddim yn mynd yn ei flaen, gall Caerdydd golli swyddi a buddsoddiad.

Ychwanegodd nad oedd y cynllun mewn unrhyw ffordd yn gwrthdaro gyda chynlluniau Llywodraeth Cymru, ond yn hytrach am greu swyddi, rhywbeth y byddai'r llywodraeth am ei weld.

Dywedodd arweinydd Cyngor Casnewydd, Bob Bright, mai bwriad y cynllun oedd cydweithio fel uned er mwyn gwneud cais am arian gan Lywodraeth y DU, ac na all dinasoedd "ymddwyn mewn modd ynysig".

Mae Maer Bryste, George Ferguson, wedi dweud mai'r dinasoedd yma yw'r pwerdy economaidd gorau tu allan i Lundain.

Ychwanegodd y byddai hi'n "wallgof" peidio â chael gwasanaeth trên cyflymach rhwng Bryste, Casnewydd a Chaerdydd.