Adroddiad: Nifer achosion newydd canser yn codi

  • Cyhoeddwyd
Canser yr ysgyfaintFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd cynnydd mwyaf canser yr ysgyfaint ymysg merched, gydag achosion yn cynyddu mwy na thraean rhwng 2003 a 2012.

Mae adroddiad Canser yng Nghymru yn dangos bod nifer achosion canser newydd ymysg dynion a merched yng Nghymru wedi cynyddu.

Mae'r adroddiad, gafodd ei baratoi gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, yn dangos bod 19,026 o achosion newydd o ganser yn 2013, cynnydd o 12% ar ffigyrau 2004.

Mae'r ffigyrau'n dangos bod y gyfradd o bobl sy'n goroesi canser yn gwella'n araf, ac am y to cyntaf mae dros 70% o bobl sydd wedi derbyn diagnosis o ganser yn goroesi am o leiaf un flwyddyn.

Ond mae'r gyfradd o bobl sy'n goroesi wedi diagnosis o ganser yr ysgyfaint, y pancreas a'r iau yn parhau'n wael.

70% yn goroesi

Canser yr ysgyfaint, canser y fron ymysg merched, canser y prostad a chanser coluddyn, oedd y mathau mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru yn 2013 ac ymhlith y rhain roedd y cynnydd mwyaf dros y ddegawd ddiwethaf.

Roedd y cynnydd mwyaf yng nghanser yr ysgyfaint ymysg merched, gydag achosion yn cynyddu mwy na thraean rhwng 2003 a 2012.

Er gwaethaf y ffaith bod y gyfradd o bobl sy'n goroesi canser yn gwella'n araf, a bod dros 70% o bobl sydd wedi derbyn diagnosis o ganser yn goroesi am o leiaf flwyddyn, mae'r rhan fwyaf o bobl gyda chanser yr ysgyfaint yn marw o fewn y flwyddyn gyntaf o dderbyn diagnosis.

Dim ond 28% o'r bobl gafodd ddiagnosis rhwng 2007-2011 oroesodd am flwyddyn neu hirach.

Mae cyswllt cryf rhwng canser yr ysgyfaint ag amddifadedd, gyda'r gyfradd o ganser yr ysgyfaint ddwywaith a hanner yn uwch yn 20% o ardaloedd fwyaf difreintiedig o'u cymharu â'r 20% o ardaloedd lleiaf difreintiedig.

'Darlun cymhleth'

Dywedodd Dr Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru: "Mae'r darlun ar gyfer achosion o ganser, a'r nifer o bobl sy'n goroesi canser yng Nghymru, yn gymhleth. Tra bod y gyfradd o bobl sy'n goroesi canser yn gwella'n araf, mae cyfradd goroesi rhai canserau, fel canser yr ysgyfaint, yn parhau'n wael.

"Rydym yn pryderu ynglŷn â'r nifer cynyddol o ferched sy'n derbyn diagnosis o ganser yr ysgyfaint, a'r cyswllt parhaol rhwng canser yr ysgyfaint ag amddifadedd.

"Mae smygu yn achosi dros 80% o'r achosion o ganser yr ysgyfaint, a hefyd yn arwain at bron i 20% o'r holl achosion o ganser yn y DU.

"Mae ffactorau eraill fel alcohol, bod dros eu pwysau, diet a pheidio â gwneud ymarfer corff, yn gyfrifol am nifer fawr o achosion o ganser ymysg y boblogaeth.

"Mae modd mynd i'r afael â'r rhan fwyaf o'r ffactorau yma drwy fesurau i'r holl boblogaeth a mesurau i unigolion."