Addysg Pen-y-bont: Dim angen monitro
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Estyn gadarnhau bod gwasanaethau addysg Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwella cymaint fel nad oes angen monitro ychwanegol.
Roedd Estyn wedi penderfynu bod angen monitro ar wasanaethau addysg yn y sir wedi ymchwiliad ym mis Hydref 2012.
Felly roedd sawl ymweliad i fonitro'r gwasanaethau addysg yn ystod 2014 gyda'r un olaf ym mis Rhagfyr.
Eisoes mae'r corff wedi dweud bod cynnydd digonol o ran yr argymhellion a wnaed wedi'r ymchwiliad ym mis Hydref 2012.
Roedd ysgolion wedi mynd i'r afael â materion fel perfformiad disgyblion ac roedd yr awdurdodau wedi ymyrryd mewn ysgolion oedd yn tangyflawni.
Dywedodd Estyn fod "newidiadau mawr wedi bod yn nhîm uwchreoli bwrdd cyfarwyddwyr adran plant."