Dyfodol y safonau iaith yn y fantol?
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i osod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg yn y fantol.
Gall BBC Cymru ddatgelu y bydd y tair gwrthblaid yn y cynulliad yn pleidleisio yn erbyn y safonau iaith oni bai eu bod nhw'n cael eu cryfhau yn sylweddol.
Mae'r gwrthbleidiau yn rhybuddio y bydd cyrff cyhoeddus yn aros yn eu hunfan o safbwynt darparu gwasanaethau Cymraeg oni bai fod newidiadau.
Cafodd y llythyr ei ysgrifennu ar y cyd gan gynrychiolydd o'r Blaid Geidwadol, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
'Rhy wan'
Dywedodd un o'r awduron Simon Thomas AC bod y safonau "yn rhy wan ac felly fydde nhw ddim yn darparu'r math o hawliau ar gyfer siaradwyr Cymraeg fydden i'n licio eu gweld o fewn awdurdodau lleol".
Mae'r llythyr yn galw am safonau fyddai'n gosod rheidrwydd ar gyrff cyhoeddus i gynllunio'r gweithlu llawer yn well er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynnig yn Gymraeg.
Mae 'na alw hefyd am amodau iaith pan fo cyrff cyhoeddus yn rhoi cytundeb am waith allanol i gwmnïau preifat a chyrff eraill.
Yn ôl cadeirydd Cymdeithas yr Iaith mae'r llythyr yn "rybudd clir i Carwyn Jones bod angen gwella'r safonau'n sylweddol cyn iddo allu sicrhau cefnogaeth yn y Cynulliad".
Dywedodd Jamie Bevan: "Y perygl mawr gyda'r hawliau iaith newydd fel y safan nhw yw nad oes ffordd o symud cyrff ymlaen, yn benodol, o ran eu polisïau recriwtio, ac o ran gweithio yn Gymraeg.
"Mae'r pethau hynny mor sylfaenol er mwyn sicrhau cynnydd o ran defnydd o'r Gymraeg ar lawr gwlad - mae gwendidau polisïau recriwtio wrth wraidd cymaint o broblemau."
'Cymraeg pob dydd'
Mae disgwyl i Aelodau Cynulliad bleidleisio ar y safonau yn y gwanwyn gyda'r bwriad y bydd rhai cyrff cyhoeddus yn gorfod cydymffurfio â nhw yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn hyderus bydd y safonau yn rhoi pob cyfle i bobl ddefnyddio mwy ar y Gymraeg yn eu bywydau pob dydd."
"Rydym wedi derbyn copi o'r llythyr a byddwn yn ymateb maes o law."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd5 Awst 2014
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2014