Mudiad Meithrin: Colli swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae'r Mudiad Meithrin yn ailstrwythuro eu staff taleithiol, a fydd yn y pen draw yn arwain at golli naw o swyddi.
Yn ôl y mudiad dyw'r strwythur presennol ddim yn addas i ateb gofynion cylchoedd meithrin.
Canlyniad y strwythur newydd fydd lleihad yn nifer y swyddi o 38 i 29 - deellir fod tair swydd yn wag eisoes felly bydd chwech o staff yn wynebu colli gwaith.
Mae'r Mudiad yn cyflogi dros 220 o staff yn uniongyrchol.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Mudiad Meithrin bod cryn drafod wedi bod am y newidiadau, ond bod y "strwythur presennol bellach yn anaddas".
'Ymgynghoriad llawn a thryloyw'
Dywedodd y llefarydd bod "proses ymgynghori llawn a thryloyw ar waith" ynglŷn â'r newidiadau.
Ychwanegodd bod "cryn drafod" wedi bod dros y blynyddoedd diweddar oherwydd newid mawr "yn nifer a natur y cylchoedd meithrin a hefyd yn y gefnogaeth a ddaw o du'r llywodraeth yn sgil datganoli".
"Mae'r strwythur presennol bellach yn anaddas i ymateb i ofynion a natur cylchoedd yn y Gymru gyfoes ac yn rhoi gormod o faich ar rai aelodau o staff. Ar yr un pryd, mae cyllid o Gynghorau Sir a Byrddau Iechyd yn crebachu ac mae gwead Awdurdodau Lleol yn newid yn sgil Comisiwn Williams."
Daw'r broses ailstrwythuro bythefnos ar ôl i'r Mudiad gyhoeddi 'Dewiniaith' - ei gweledigaeth ar gyfer y deng mlynedd nesaf.
Ychwanegodd llefarydd y Mudiad: "Bwriad adolygu'r strwythur presennol yw rhoi mwy o gefnogaeth i staff a phwyllgorau'r cylchoedd, ymateb i werthuso parhaus i wasanaeth y Mudiad ar lawr gwlad a manteisio ar arbenigedd staff presennol gan roi cyfleoedd iddyn nhw i uwchsgilio.
"Canlyniad yr adolygiad yw creu 4 ardal yn lle 3 talaith, cael tîm cefnogi gydag 8 aelod o staff ym mhob ardal gyda swyddogion sy'n arbenigo ar faes (yn hytrach nac arbenigo ar bopeth o fewn ffiniau un ardal neu Gyngor Sir) a chysoni nifer y cylchoedd y mae pob swyddog yn gyfrifol amdanyn nhw fel pwynt cyswllt cyntaf."
Y nod yw cyflwyno'r strwythur newydd ym mis Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2014