Dymchwel tai yn Aberystwyth i adeiladu archfarchnadoedd

  • Cyhoeddwyd
Dymchwel tai

Mae'r gwaith wedi dechrau o ddymchwel rhes o dai er mwyn adeiladu dwy archfarchnad newydd yn Aberystwyth.

Daeth Ffordd Glyndŵr i sylw'r cyhoedd ar ôl i un o'r trigolion - Enid Jones - wrthod gwerthu ei thŷ i'r datblygwyr a symud o'i gwirfodd.

Bu'n rhaid i Gyngor Ceredigion basio Gorchymyn Prynu Gorfodol er mwyn ei gorfodi i adael ei chartref.

Symudodd Enid Jones allan cyn y Nadolig gan gloi'r drws ar rif chwech Ffordd Glyndŵr am y tro olaf ac erbyn hyn mae'r peiriannau trwm yn eu lle er mwyn dymchwel y rhes a chlirio'r safle.

Roedd Mrs Jones yn teimlo fel Dafydd yn erbyn Goliath, ar ei phen ei hun yn erbyn y datblygwyr, Cyngor Ceredigion, ag enwau mawr Tesco a Marks and Spencer tu cefn i'r cyfan.

Mae pobl eraill wedi gwrthwynebu'r datblygiad - am fisoedd roedd cefnogwyr y ganolfan ddydd oedd ar y safle yma hefyd yn protestio yn erbyn y bwriad i ddymchwel eu hadeilad. Mae'r ganolfan bellach wedi mynd a'r bobl oedrannus yn derbyn gwasanaeth mewn canolfan arall.

Dywedodd Mrs Jones drwy'r cyfnod nad oedd ganddi "ddim byd yn erbyn Tesco, ond mai mater o egwyddor oedd ceisio achub ei chartref."

Treuliodd hi ran o'i phlentyndod yn byw yn Ffordd Glyndŵr a phrynodd hi dŷ arall yn y stryd dros ddeng mlynedd yn ôl wrth i'w hiechyd waethygu fel ei bod yn byw rhywle gwastad ac agos at y dref.

Bu'n rhaid defnyddio pob mesur posib i'w symud ar ôl iddi wrthod derbyn telerau'r datblygwyr a gwerthu iddyn nhw. Fe wnaeth Cyngor Ceredigion gymeradwyo'r defnydd o Orchymyn Prynu Gorfodol a'i gorfodi hi i werthu.

Wedyn cafwyd ymchwiliad i hynny. Ac er i'r arolygwr ddweud fod y gorchymyn yn tarfu ar hawliau dynol Enid Jones, roedd rhesymau eraill dros ganiatáu'r gorchymyn oherwydd y budd i'r dref a phobl eraill.

Hwb i'r dref

Mae rhai o fusnesau'r dref - yn hytrach na gweld y siopau newydd fel cystadleuaeth - yn eu hystyried yn gyfle i roi hwb - Marks and Spencer yn enwedig. Mae pobl yn Aberystwyth yn dweud bod llawer iawn o siopwyr yn mynd i Gaerfyrddin am fod M&S yno yn lle aros yn lleol i siopa.

Bydd bron i 300 o swyddi yn cael eu creu yn sgil y siopau newydd yn ogystal â maes parcio mawr newydd hefyd - gyda 550 o lefydd.

Fe fydd yna lawer o waith i'w wneud ar y safle ar ôl i'r tai gael eu dymchwel - gan gynnwys dargyfeirio pibau o dan yr wyneb, a chlirio tunelli o rwbel.

Mae disgwyl i'r siopau newydd agor eu drysau cyn diwedd 2016.