Y 'Cowboy' chwaraeodd i Gymru
- Cyhoeddwyd
Chwaraeodd Lynn 'Cowboy' Davies o Bancyfelin rygbi dros Gymru deirgwaith yn ystod Pencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1956, gan ennill ei gap gyntaf yn erbyn Lloegr.

Cafodd Lynn ei lysenw gan ei gyd-chwaraewr yng Nghaerdydd Stan Bowes, gan ei fod yn gwisgo het debyg iawn i het gowboi. Cafodd yr het ei dwyn yn 1957, ond mae'r enw'n parhau byth ers hynny. Yn ffodus, mae ei gapiau rygbi yn saff. Bu 'Cowboy' yn hel atgofion ar Bore Cothi, BBC Radio Cymru:
Ymarfer caled!
"O'n i'n byw yng Nghaerfyrddin ar y pryd a clywes i ar y radio mod i wedi cael fy newis i chwarae yn y gêm yn erbyn Lloegr yn Twickenham. Doedd neb yn ymarfer cyn y gêm o gwbl - heblaw falle am y prynhawn cyn 'ny, er mwyn i bobl dynnu lluniau - ond doedd neb mâs o wynt!
"Rwy'n cofio stori am fachan cyn y gêm yn dweud ei fod am fynd i dwymo lan, a be' 'nath e o'dd cynnu ffag! Ac os o'dd 'na rywun yn dechrau rhedeg yr yr unfan, o'dd e'n dweud wrthyn nhw am ishte lawr, rhag ofn tynnu muscle neu rywbeth!
"Yn ystod y gêm, gyda Cymru ar y blaen, pasiodd Malcolm Thomas i bêl i mi - roedd Mike Smith hefyd yn rhedeg ar draws y cae, ond fi enillodd y ras! Es i draw dros y lein ar fy mola a chael 3 phwynt.
"Pythewnos ar ôl 'ny, yn gêm yr Alban, o'dd rhew caled y dydd Gwener cyn y gêm, ac er mwyn cael y cae yn barod i chwarae arno, cafon nhw dân dros y pitch i gyd - fflamau ym mhob man. Enillon ni'r gêm 9-3 - sgoriais i eto."
Anaf
Colli fu hanes Cymru yn erbyn Iwerddon, yn dilyn perfformiad gwych Jackie Kayle. Ond yna, bu anffawd i Lynn.
"Wythnos ar ôl 'ny, o'n i'n chwarae yn erbyn Prifysgol Caergrawnt, a ges i ddamwain ar fy llygad a pallodd y meddyg adael i mi chwarae yn erbyn Ffrainc, a nes i orfod edrych ar y gêm o'r stand. Ionawr y flwyddyn wedyn ges i ddamwain ar fy mhenglin ac o'n i mewn plaster am rhyw chwe mis."
Yn anffodus, dyna oedd diwedd gyrfa rhyngwladol y Cowboi. Mae'n credu fod ei fagwraeth yn y gorllewin gwyllt wedi helpu gyda'i sgiliau rygbi.
"Pan o'n i'n ifanc, odd mabolgampau bob blwyddyn mewn sawl pentre' - sawl un yn mynd i redeg - dyna sut o'n i'n cadw'n ffit. Dim cae chwarae ond cae fferm - ond dyna ble oedden ni'n dysgu sut i ochrgamu a neidio ar y cae rygbi - osgoi dom da yn y caeau!
"Ma'n dod mor naturiol i beidio rhedeg mewn llinell syth!"
Mae 'na ragor o gynnwys am Bencampwriaeth y 6 Gwlad 2015 ar Cymru Fyw