44 yn colli swyddi wrth i safle ym Mhen-y-bont gau
- Cyhoeddwyd

Bydd 44 o bobl yn colli eu swyddi ym Mhen-y-bont wrth i gwmni gau.
Dywedodd cwmni Lektronix, sy'n trwsio cyfarpar electronig, y byddai'r safle yn cau ar unwaith.
Yn ôl y cwmni, mae angen cau safle Pen-y-bont ac un arall ym Mhortiwgal er mwyn sicrhau bod y busnes yn gwneud elw.
Mae'r cwmni yn dweud eu bod yn gobeithio symud rhai gweithwyr i safle Aldridge yng nghanolbarth Lloegr.
"Y nod yw cwrdd â galw cwsmeriaid a sicrhau ein bod yn gallu cystadlu'n fydeang," meddai llefarydd.