Trenau Cymru: Cynllun nid-er-elw erbyn yr haf

  • Cyhoeddwyd
Trenau Arriva CymruFfynhonnell y llun, PA

Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, yn dweud y bydd cynllun ar gyfer model nid-er-elw i redeg rheilffyrdd Cymru yn barod erbyn yr haf.

Mewn cyfweliad ar raglen The Wales Report y BBC, dywedodd Mrs Hart y hoffai fod â mwy o bŵer dros Network Rail, gan gynnwys y gallu i roi prosiectau isadeiledd i gwmnïau eraill.

Mae gweinidogion eisoes wedi dweud y hoffen nhw weld model nid-er-elw yn cymryd drosodd rhedeg cytundeb Cymru a'r Gororau, sydd ar hyn o bryd yn cael ei redeg gan Drenau Arriva Cymru, pan ddaw'r cytundeb dan reolaeth Llywodraeth Cymru yn 2018.

Dywedodd Mrs Hart mai un dewis posib fyddai nodi'r uchafswm elw gall y cwmni sy'n derbyn y cytundeb ei dderbyn. Mae model tebyg eisoes mewn grym ar gyfer gwasanaethau rheilffordd lleol ar Lannau Mersi.

Dywedodd: "Rydw i'n meddwl bod angen model gwahanol... dydw i ddim yn credu bod y model presennol yn gweithio. Rydw i'n meddwl bod 'na lawer o bethau i'w hystyried sy'n cael eu rhedeg yn well, mewn llefydd eraill, ac rydw i'n meddwl bod y model hwn yn bosibilrwydd ar gyfer ein dyfodol.

"Rydw i'n credu y dylid cyfyngu ar yr elw... Rydw i'n meddwl y gallwn ni ystyried model fel 'na."

Ychwanegodd: "Rydw i'n gobeithio y bydd cynllun mewn lle erbyn y byddwn ni ar ein gwyliau ym mis Gorffennaf, Awst, er mwyn dangos sut y bydd pethau'n datblygu yn y dyfodol."

Wrth drafod Network Rail, dywedodd bod y corff sy'n rheoli'r cledrau wedi bod yn gyfrifol am "oedi anferth" a "chostau cynyddol", yn enwedig wrth ddiweddaru'r signalau ger Caerdydd.

Dywedodd: "Hoffwn ddweud wrth National Rail y byddwn ni, yn fwy rheolaidd, yn cael rhywun arall i wneud y gwaith."

Mae Network Rail yn atebol i'r Adran Drafnidiaeth yn llywodraeth San Steffan.

Mae mwy ar y stori hon ar raglen The Wales Report ar BBC One Wales am 22:40.