Iawndal i ddyn gafodd drawiad
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gaerffili wedi ennill iawndal sylweddol yn yr Uchel Lys wedi i'w galon stopio o fewn oriau i fod yn gweld meddyg teulu.
Roedd Philip Phillips yn 55 oed pan gafodd ei gludo i'r ysbyty ar frys wedi i'w galon fethu ar 3 Mai, 2011.
Roedd wedi bod yn gweld ei feddyg teulu yn gynharach ar yr un diwrnod, ac fe honnodd iddo ddweud wrth y meddyg ei fod wedi cael poenau difrifol yn ei frest.
Wedi i'r meddyg gymryd golwg arno, cafodd ei yrru i ffwrdd cyn cael trawiad yn ddiweddarach.
Aeth i gyfraith, ac fe ddyfarnodd y Barnwr Neil Bidder QC o blaid Mr Phillips ar ddiwedd achos tri diwrnod yn yr Uchel Lys yn Llundain ddydd Mercher.
Mae'r dyfarniad yn golygu y bydd gan Mr Phillips yr hawl i dderbyn iawndal sylweddol, ond anhysbys.
Clywodd y llys fod Mr Phillips wedi dechrau cael poenau yn ei frest wrth yrru i'r gwaith y diwrnod cynt, ac aeth i weld y meddyg.
Dywedodd mewn tystiolaeth ei fod wedi dweud wrth y meddyg am y poenau "difrifol iawn" ac fe gafodd archwiliad gyda stethosgop a theimlo'n fwy tawel ei feddwl.
Yn fuan wedyn cafodd drawiad, ac fe wnaeth ei galon stopio'n llwyr cyn iddo gyrraedd yr ysbyty. Fe gymrodd hi gryn amser i'w adfywio a bu yn yr ysbyty am bron i fis.
Roedd y meddyg wedi honni nad oedd Mr Phillips wedi son am y poenau yn ei frest yn ystod ei ymweliad.
Dywedodd y barnwr ei fod yn credu bod Mr Phillips wedi trafod hynny ac fe ddyfarnodd o'i blaid. Gwrthododd yr hawl i'r meddyg teulu fynd i'r Llys Apêl i apelio'r dyfarniad.