Angen dros 500 o rieni maeth ychwanegol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Rhieni a'u plentyn
Disgrifiad o’r llun,
Mae dros 4,450 o blant Cymru yn byw gyda rhieni maeth

Mae angen i dros 500 o deuluoedd roi cartrefi sefydlog i blant yng Nghymru yn ystod y flwyddyn nesaf, yn ôl elusen.

Mae'r Fostering Network wedi datgan bod nifer cynyddol o blant yn mynd i'r sustem i ofal, a rhaid recriwtio o leiaf 550 o deuluoedd ychwanegol i'w cartrefu.

Mae dros 4,450 o blant Cymru yn byw gyda rhieni maeth.

Dywedodd yr elusen os nad oes mwy yn cynnig bod yn rhieni maeth, bydd brodyr a chwiorydd yn cael eu gwahanu, a bydd eraill yn gorfod cael eu symud i ffwrdd o'u teulu a'u ffrindiau.

Dywedodd cyfarwyddwr yr elusen yng Nghymru, Emily Warren, y gall y profiad o fod yn rhiant maeth ddod a phleser mawr.

"Mae plant a phobl ifanc yn dod i mewn i ofal am nifer o resymau, ond maen nhw oll angen cefnogaeth broffesiynol ac ymroddedig," meddai.

"Mae rhieni maeth yn bobl arbennig sy'n croesawu rhai o blant a phobl ifanc mwyaf difreintiedig Cymru i mewn i'w cartrefi."