Cyhoeddi ffigyrau gwrando Radio Cymru a Radio Wales

  • Cyhoeddwyd
Stiwdio radio

Mae nifer y gwrandawyr wythnosol ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales wedi cynyddu dros dri mis olaf 2014.

Mae ffigyrau gwrando Radio Cymru rhwng Hydref a Rhagfyr y llynedd wedi gweld cynydd i 106,000, sef 1,000 yn uwch na ffigyrau'r tri mis blaenorol.

Roedd gan Radio Wales gynulleidfa wythnosol o 427,000, sydd yn gynnydd o 29,000 o gymharu â'r ffigyrau am y cyfnod rhwng Gorffennaf a Medi 2014.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Mae ffigyrau diweddaraf RAJAR yn dangos cynnydd yn ffigyrau Radio Wales ac mae ffigyrau gwrandawyr Radio Cymru wedi aros yn gyson.

''Fel sy'n arferol, byddwn yn edrych ar y manylion yn ofalus ac yn gweithio i gryfhau ein gorsafoedd ymhellach."