Ymchwiliad rhyw: 'Angen llais o Gymru'
- Cyhoeddwyd

Mae Gweinidog Iechyd Cymru Mark Drakeford wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yna gynrychiolaeth o Gymru ar banel sy'n ymchwilio i droseddau rhyw hanesyddol.
Daw galwad Mark Drakeford yn sgil cyhoeddiad fod yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi penodi cadeirydd i arwain y panel.
Yn ei lythyr at Ms May mae Mr Drakeford yn croesawu penodiad Ustus Lowell Goddard o Seland Newydd i gadeirio'r Panel.
Ond mae Mr Drakeford yn dweud fod Llywodraeth Cymru yn poeni fod aelodaeth y panel yn dioddef o ddiffyg dealltwriaeth a phrofiad o'r cyd-destun Cymreig.
Ustus Lowell Goddard yw'r trydydd person i gael ei dewis i Gadeirio'r ymchwiliad.
Dewis gwreiddiol y Llywodraeth oedd y Farwnes Butler-Sloss. Fe wnaeth hi ymddiswyddo o fewn wythnos ar ôl honiadau na fyddai'n gallu bod yn ddiduedd oherwydd bod ei diweddar frawd Syr Michael Havers, yn Dwrne Cyffredinol yn y 1980au.
Fe wnaeth Fiona Woolf benderfynu camu o'r neilltu ar 31 Hydref, oherwydd pryder ynglŷn â'i chysylltiadau gyda'r cyn Ysgrifennydd Cartref Arglwydd Brittan.