Archfarchnadoedd: Tai yn cael eu dymchwel yn Aberystwyth

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cafodd y tai eu dymchwel ddydd Iau

Mae gweithwyr wedi bod yn dymchwel rhes o dai yn Aberystwyth fel rhan o gynllun datblygu i godi dwy archfarchnad newydd yn y dref.

Ymhlith y tai i gael eu dymchwel oedd tŷ Enid Jones, oedd wedi gwrthwynebu'r cynllun.

Roedd Mrs Jones wedi gwrthod gwerthu ei thŷ yn Ffordd Glyndŵr.

Llwyddodd y datblygwyr i gael gorchymyn gorfodi er mwyn codi archfarchnadoedd Marks & Spencer a Tesco.

Fe wnaeth Archwilydd Cynllunio gefnogi y cais cynllunio oedd yn golygu dymchwel 12 o dai.

Image copyright BBC news grab
Image caption Roedd Enid Jones wedi gwrthod dymchwel ei thŷ
Image copyright BBC NEWS GRAB
Image caption Roedd y gorchymyn yn effeithio 12 o dai

Straeon perthnasol