Cannoedd yn protestio i achub llyfrgelloedd Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Protest
Disgrifiad o’r llun,
Daeth cannoedd i brotestio yng nghanol Caerdydd fore Sadwrn

Mae tua 400 o bobl wedi bod yn protestio yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i wrthwynebu cynlluniau i gwtogi gwasanaethau llyfrgell y ddinas.

Ymhlith y rhai wnaeth siarad oedd merch 12 oed o Lanelli sydd wedi ysgrifennu llythyr yn amddiffyn llyfrgelloedd lleol. Cafodd ei llythyr sylw gan nifer o awduron gan gynnwys bardd plant Lloegr, Malorie Blackman.

Disgrifiad,

Gwyneth Lewis yn esbonio ei rhesymau dros brotestio

Mae'r cyngor yn ystyried cwtogi grantiau, a gobeithio defnyddio gwirfoddolwyr i gynnal hyd at saith o lyfrgelloedd lleol.

Dywed ymgyrchwyr y bydd y toriadau yn effeithio ar Lyfrgell Canolog Caerdydd.

Awduron ac Artistiaid

Fe wnaeth nifer o awduron ddod i'r brotest yn y ddinas i gefnogi'r ymgyrch.

Mae prif leisydd y grŵp The Manic Street Preachers, James Dean Bradfield, wedi ysgrifennu at y cyngor yn galw arnynt i ddiogelu gwasanaethau Llyfrgell Canolog y ddinas.

Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth rhai protestwyr ddal llyfrau yn yn awyr

Dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru Ken Skates y byddai'r llywodraeth yn cefnogi llyfrgelloedd mewn "amseroedd anodd".

Wrth siarad cyn Diwrnod Cenedlaethol Llyfrgelloedd ddydd Sadwrn, dywedodd fod £1.7m wedi ei glustnodi dros y flwyddyn ddiwethaf i wella safleoedd llyfrgelloedd a hybu eu defnydd fel canolfannau cymunedol ar gyfer nifer o wasanaethau lleol.

Mae wedi croesawu'r ffaith bod cynnydd o 5% wedi bod yn nifer y bobl sydd yn benthyg deunydd o lyfrgelloedd ac mae wedi galw ar gynghorau i "gydnabod gwerth canolfannau a gwasanaethau diwylliannol".