'Cymorth i'r bobl fwyaf bregus'
- Cyhoeddwyd

Ddydd Iau, mae Oxfam Cymru yn cynnal digwyddiad yn Y Senedd i ddathlu llwyddiant Prosiect Bywoliaethau yr elusen.
Bwriad y digwyddiad 'Nid Goroesi ond Ffynnu' yn Y Senedd ydy dathlu llwyddiant y prosiect a chodi llais y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru.
Mae'r prosiect yn cael ei weithredu gan naw o bartneriaid Oxfam ledled Cymru:
- The African Community Centre (Abertawe)
- Partneriaeth Parc Caia (Wrecsam)
- Gweithdy DOVE (Banwen, Dulais Uchaf, Castell-nedd Port Talbot)
- Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (gyda'r Bedford Street Community Company)
- Duffryn Community Link (Casnewydd)
- Glyncoch Community Regeneration (Rhondda Cynon Taf)
- South Riverside Community Development Centre (Caerdydd)
- Sylfaen Cymunedol Cyf (Caernarfon)
- The Wallich (Glynebwy)
Mae'r prosiect yn rhoi cyfleoedd gwaith, ac yn darparu mentoriaid i "rai o bobl mwya' bregus Cymru", meddai'r elusen.
Mae Tom Jones yn dod o'r Rhyl. Mae wedi bod yn gweithio gyda'r prosiect trwy Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, gyda'r Bedford Street Community Company, a Chanolfan y Foryd yn y Rhyl.
Fe ddes i ar draws Prosiect Oxfam tua dwy flynedd yn ôl.
Roeddwn i wedi cael nifer o broblemau personol, wedi bod allan o waith ac wedi bod yn ddigartref hefyd.
Pan wnes i ymuno â'r prosiect nes i gyfarfod Cath, roedd hi'n gefnogol iawn ac mi wnaeth hi dreulio lot o amser efo fi yn siarad am fy mhroblemau, fel diffyg llety a ballu.
Nes i ddechrau gwneud llawer o waith gwirfoddol yng Nghanolfan y Foryd ac mi wnaeth Oxfam helpu fi i fynd ar lot o gyrsiau hyfforddi a fy rhoi ar gynllun mentora eraill.
Trwy'r cynllun hwnnw dwi wedi cael nifer o benwythnosau i ffwrdd yn mynd i gyfarfodydd rhwydweithio a chyfleoedd hyfforddi; maen nhw wedi bod yn anhygoel o gefnogol. Maen nhw hefyd wedi rhoi lot o strwythur i mi yn fy mywyd.
Mae gen i lawer o gymwysterau nawr gan fod Oxfam wedi talu i mi fynd ar gyrsiau - cymwysterau cyfrifiadurol ac ati.
Yn ffodus iawn mae hyn wedi arwain at waith llawn amser i mi yng Nghanolfan y Foryd fel gweithiwr cefnogol a dw i'n mwynhau yn ofnadwy.
Meddai Lesley Griffiths AC - noddwr y digwyddiad:
"Ers ei ddechrau ym mis Medi 2012 mae Prosiect Bywoliaethau Oxfam Cymru wedi helpu pobl sydd ar ymylon cymdeithas i ddatblygu sgiliau gwerthfawr, magu hyder, a dod o hyd i waith.
"Rwy'n falch iawn o fod yn noddi'r digwyddiad hwn heddiw, ac yn gobeithio y bydd modd i'r prosiect barhau gyda'r gwaith o daclo tlodi a chodi lleisiau pobl fregus yng Nghymru."