Gwadu ceisio llofruddio ei wraig mewn uned gofal dwys

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty
Disgrifiad o’r llun,
Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni

Clywodd llys fod gŵr oedd yn llawn cenfigen wedi ceisio llofruddio ei wraig, nyrs yn gofalu am gleifion mewn uned gofal dwys.

Ceisiodd Royston Jones, 39 oed, dagu Claire Jones o flaen ei chydweithwyr yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, Sir Fynwy.

Roedd hi wedi mynd yn anymwybodol cyn i staff lwyddo i dynnu Mr Jones oddi arni.

Yn Llys y Goron Casnewydd mae'r diffynnydd o Frynmawr yn gwadu cyhuddiad o geisio ei llofruddio.

Dywedodd Michael Jones ar ran yr erlyniad fod y cwpwl wedi gwahanu a bod Mr Jones wedi bygwth lladd ei wraig gan ei fod yn credu ei bod mewn perthynas arall.

Roedd yr ymosodiad ym mis Medi y llynedd.

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Mrs Jones wrth y llys fod ei gŵr ''fel dyn o'i gof''

Clywodd y llys fod staff mewn ofn yn ystod y digwyddiad yn Ysbyty Nevill Hall.

Llwyddodd gweithwyr yn yr ysbyty i lusgo Mrs Jones i ystafell arall ond fe aeth Mr Jones ar ei hôl a'i thagu.

Dywedodd Mrs Jones wrth y llys: ''Roedd fel dyn o'i gof'.

''Yr unig beth ddywedodd wrtho i oedd: 'Ti wedi ei wneud e nawr'. A dyma fi'n dweud: 'Beth ydw i wedi ei wneud?'

''Rhoddodd ei ddwy law am fy ngwddf ac roeddwn yn ymwybodol o fy nghyd-weithwyr yn sgrechen a gweiddi o'm cwmpas.''

Triniaeth

Cafodd Mrs Jones driniaeth am anafiadau i'w gwddf, penelin a'i chefn.

Clywodd y llys fod Mr Jones wedi dweud wrth yr heddlu ar ôl iddo gael ei arestio: ''Byddai'n well i'r llys beidio â fy rhyddhau neu fe fydda i'n gorffen y job. Fydda i ddim yn y carchar am byth.''

Clywodd y llys fod ganddo hanes o gymryd cyffuriau ac roedd wedi cymryd cyffuriau ar ddiwrnod yr ymosodiad gyda'r bwriad o ladd ei wraig.

Mae'r achos yn parhau.