6 Gwlad: 'Profiad yw'r allwedd'
- Cyhoeddwyd

Mae profiad yn elfen hollbwysig wrth baratoi i chwarae mewn gemau rygbi mawr.
Eisoes mae hyfforddwr Lloegr, Stuart Lancaster, wedi cyfadde' bod y profiad o glywed Stadiwm y Mileniwm yn llawn dop ac ar ei fwya' swnllyd wedi bod yn ormod i'w dîm ddwy flynedd yn ôl pan enillodd Cymru'r Gamp Lawn yn erbyn yr hen elyn.
Er mwyn taclo hynny mae'r tîm y tro hwn wedi bod yn ymarfer gydag uchelseinydd yn bloeddio canu ar y maes ymarfer - ymgais i roi profiad i'w dîm o'r hyn sydd i'w ddisgwyl yng Nghaerdydd nos Wener.
Ond mae Warren Gatland yn gwybod fod gan ei dîm yntau brofiad go iawn a hynny lle mae'n cyfri, ar y cae.
Oherwydd anafiadau bydd y tri sy'n dechrau'r gêm i Loegr yng nghanol cae - George Ford, Luther Burrell a Jonathan Joseph - a 19 o gapiau rhyngddyn nhw.
135 o gapiau
Mae gan y tri sy'n dechrau i Gymru, Dan Biggar, Jamie Roberts a Jonathan Davies, 135 o gapiau.
Dywedodd Gatland wrth BBC Cymru: "Rhaid i ni ddefnyddio hynny o'n plaid. Ar gyfartaledd rydym flwyddyn yn hŷn a chanddon ni nifer sylweddol uwch o gapiau.
"Mae'r cyfuniad sydd ganddyn nhw yn eitha' newydd ac yn awyrgylch tanbaid Stadiwm y Mileniwm dan ei sang mae'n rhaid i ni wneud pethau mor anghyffyrddus â phosib iddyn nhw."
Mae nifer o garfan Lloegr yn absennol oherwydd anafiadau, gyda Manu Tuilagi, Owen Farrell, Ben Morgan, Joe Launchbury a Courtney Lawes yn eu plith.
Ond mae Gatland yn credu y bydd y newidiadau hynny'n golygu y bydd Lloegr yn fwy tebygol o chwarae rygbi agored.
'Dim byd i'w golli'
Ychwanegodd: "Roeddwn i'n credu yn y dechrau y bydden nhw'n cicio'r bêl drwy'r amser, ond dydw i ddim yn meddwl y gwawn nhw hynny nawr.
"Does ganddyn nhw ddim byd i'w golli o geisio chwarae rygbi oherwydd mae ganddyn nhw'r gallu i herio unrhyw dîm yn y byd ymysg y blaenwyr. Felly mae hynny'n her."
Mae Lloegr wedi ennill un frwydr yn barod. Er bod Gatland am weld to'r stadiwm ar gau nos Wener, mae Lloegr wedi defnyddio'u hawl i wrthod hynny.
Roedd y to ar gau yn 2013.
Bydd y gic gyntaf am 20:05 gyda'r ddau dîm yn gobeithio y bydd y Gamp Lawn y tu hwnt i'w gafael erbyn diwedd yr ornest gyntaf.
Mae 'na ragor o gynnwys am Bencampwriaeth y 6 Gwlad ar Cymru Fyw
Straeon perthnasol
- 2 Chwefror 2015
- 29 Ionawr 2015