Enwi blodyn newydd y Bannau ar ôl David Attenborough

  • Cyhoeddwyd
Heboglys AttenboroughFfynhonnell y llun, Tim Rich
Disgrifiad o’r llun,
Mae Heboglys Attenborough yn tyfu ar fannau creigiog ar un o gopaon Bannau Brycheiniog.

Mae math newydd o flodyn gwyllt, Hieracium attenboroughianum, neu Heboglys Attenborough, wedi cael ei enwi ar ôl Syr David Attenborough.

Cafodd y planhigyn ei ddarganfod degawd yn ôl yng nghanol Bannau Brycheiniog.

Mae'n perthyn yn agos, ac yn edrych yn debyg, i Ddant y Llew.

Mae Heboglys Attenborough yn tyfu ar fannau creigiog Cribyn, un o dri chopa yng nghanol y Bannau.

Dywedodd Syr David Attenborough: "Mae'n anrhydedd bod fy enw wedi cael ei roi i'r rhywogaeth newydd hyfryd o heboglys gafodd ei ddarganfod ym Mannau Brycheiniog.

"Mae rhoi fy enw i blanhigyn newydd yn un o'r teyrngedau biolegol mwyaf, ac rwy'n wir ddiolchgar. Mae hi'n bleser ychwanegol bod Hieracium attenboroughianum mor brydferth ac yn byw mewn rhan mor hyfryd o'r wlad."

Ffynhonnell y llun, Joe Cornish
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cribyn yn un o dri chopa yng nghanol y Bannau.

Mae gan Syr David Attenborough 10 planhigyn wedi'u henwi ar ei ôl, ond dyma'r unig blanhigyn byw yn y DU sydd yn rhannu enw'r naturiaethwr enwog.

Cafodd y blodyn ei astudio am y tro cyntaf yn 2004 pan gafodd ei ddarganfod gan Joe Daggett, Graham Motley, Tim Rich a Paul Smith, oedd yn chwilio am fath arall o heboglys ar y pryd.

Dywedodd Dr Tim Rich, y dosbarthwr planhigion a enwodd y blodyn newydd: "Mae darganfod rhywogaeth newydd yn foment cyffrous iawn, a rhywbeth rydych chi'n ei freuddwydio amdano fel naturiaethwr.

"Mi wnes i ddewis enwi'r planhigyn arbennig hwn a gafodd ei ddarganfod ym mynyddoedd Bannau Brycheiniog ar ôl David Attenborough oherwydd mai ef wnaeth fy ysbrydoli i astudio ecoleg pan roeddwn i'n 17 oed."