Pryder bydd rhaid talu am ofal yn ystod brecwast am ddim
- Cyhoeddwyd

Mae'n bosib y bydd rhaid i rieni ar Ynys Môn gyfrannu tuag at ofal eu plant yn ystod cynllun brecwast am ddim yn y dyfodol.
Mae hawl gan bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru i gael brecwast am ddim, ond mae Cyngor Ynys Môn yn ystyried codi tâl am ofal y plant yn ystod y gwasanaeth.
Mae'r cyngor yn amcangyfrif y byddai codi tâl am ran o'r gwasanaeth yn dod â £171,000 y flwyddyn i'w coffrau.
Ond mae un cynghorydd am weld y gwasanaeth yn cael ei hamddiffyn gan ei bod yn un "bwysig am wahanol resymau".
Dim penderfyniad
Mae Cyngor Môn yn wynebu diffyg ariannol o £4 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf ac mae rhestr o arbedion posib wedi eu cynnig i gael eu trafod gan gynghorwyr.
Un o'r argymhellion yw'r cynnig i godi tâl ar rieni am y clybiau brecwast.
Dywedodd arweinydd y cyngor, sydd hefyd â chyfrifoldeb dros addysg, Ieuan Williams mai cynnig i "weld os oes modd cwrdd â pheth o'r costau" yw hwn.
Dywedodd wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru: "Beth mae'r adran addysg yn trio ei wneud ydi dod i fyny hefo cynlluniau i beidio gorfod torri mewn llefydd eraill, megis darpariaeth addysg ei hun.
"Dydyn ni heb ddod i benderfyniad, ond mae'n gynnig ein bod yn ymchwilio i hyn dros y misoedd nesaf."
'Gwasanaeth gwerthfawr'
Ond yn ôl y cynghorydd Ann Griffith, byddai cyflwyno tâl yn gamgymeriad oherwydd bod y gwasanaeth presennol yn un "pwysig am wahanol resymau".
"Mae'n galluogi i rieni weithio, a drwy weithio, codi pobl allan o dlodi. Mae hynny'n bwysig iawn.
"Mae'n ddechrau da i bob plentyn. Mae llawer o blant dan anfantais ar yr ynys sydd ddim yn eistedd 'rownd y bwrdd gyda'u brodyr, a'u chwiorydd a'u rhieni, ac mae hyn yn gyfle da iddyn nhw ddysgu sut i wneud hynny."
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth y rhaglen bod y gwasanaeth brecwast am ddim yn un statudol.
Ychwanegodd y gall ysgol godi tâl am y gwasanaeth gofal cyn brecwast, ond os nad yw plentyn yn derbyn y gofal hwnnw, dylai gael brecwast am ddim.
Dywedodd Cyngor Môn mai'r elfen gofal fyddai'n destun tâl, petai'r cyngor yn mabwysiadu'r argymhelliad.