Pydredd dannedd plant Cymru: 'Cynnydd calonogol'
- Cyhoeddwyd

Mae llai o blant Cymru yn dioddef o bydredd dannedd, medd gweinidogion Llywodraeth Cymru, wrth iddyn nhw groesawu adroddiad am gynllun yn ysgolion ardaloedd difreintiedig.
Mae bron i 93,000 o blant wedi bod yn rhan o gynllun glanhau dannedd wedi'i oruchwylio yn y cartref, Cynllun Gwên, 5,500 yn fwy na ffigwr 2013.
Mae'r ffigyrau diweddaraf, rhai 2012, yn dangos bod 41.4% o blant pump oed yng Nghymru'n dioddef o bydredd dannedd, gostyngiad o'r ffigwr o 47.6% yn 2008.
Mae'r Prif Swyddog Deintyddol, David Thomas, wedi croesawu'r "cynnydd calonogol".
Ychwanegodd: "Rydym yn gweld llai o blant yn dioddef o bydredd dannedd, yn hytrach na dim ond gostyngiad yn nifer y dannedd sy'n cael eu heffeithio ymysg plant gyda phydredd dannedd."
Mae'r cynllun yn cynnig rhaglenni glanhau dannedd a farnais fflworid i blant hyd at chwech oed drwy eu meithrinfa neu ysgol, ac mae triniaeth neu gyngor ar gael i blant hŷn fel bo'r angen.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, bod plant a phobl ifanc yn "elwa" o'r cynllun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2013