Gareth Warburton: Rhedeg yn gyffur?
- Cyhoeddwyd

Roedd Gareth Warburton yn edrych ymlaen yn eiddgar am gael cynrychioli ei wlad yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow, ond cafodd breuddwydion y rhedwr eu chwalu pan ddaeth cyhoeddiad cyn i'r cystadlu ddechrau ei fod wedi methu prawf cyffuriau.
Cafodd o a Rhys Williams, aelod arall o dîm Cymru eu gwahardd. Ers hynny mae'r ddau athletwr wedi bod yn bwrydro yn galed i glirio'u henwau. Bellach mae'r awdurdodau wedi cydnabod mai yn ddamweiniol wnaeth y ddau gymryd cyffur anghyfreithlon.
Ond pa effaith mae'r gwaharddiad wedi ei gael, yn ariannol, yn emosiynol ac yn broffesiynol ar Gareth Warburton? Bu'n trafod digwyddiadau'r flwyddyn diwethaf gyda Dylan Iorwerth ar Dan yr Wyneb, BBC Radio Cymru:
Wyt ti erioed wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon yn fwriadol?
Naddo. Cymryd contaminated substance, efo supplement wnes i. Mae UK Anti-Doping wedi dod allan a dweud bod fi a Rhys [Williams] ddim yn twyllo, a 'da ni ddim yn cheats. Dwi 'di cael fy drug testio trwy fy ngyrfa ddegau o weithiau ac erioed wedi methu o'r blaen.
Felly roeddet ti'n cymryd rhyw fath o supplement?
Fel bron iawn i pob athlete yn y byd, da ni'n cymryd supplements...supplements i helpu ni i hyfforddi...gyda protein, minerals a vitamins ynddo fo. Energy drinks oedd y rhai o'n i'n gymryd, oeddan nhw'n dod mewn sachet o bowdr oeddach chi'n roi mewn diod o ddŵr ac yn yfed, cyn, yn ystod ac ar ôl trainio.
Yr energy drink oedd yn contaminated, un blackcurrant oedd o a 'da chi'n medru ei brynu fo mewn pob archfarchnad yn y byd!
Rwyt ti'n defnyddio'r term contaminated fel bod rhywbeth ynddo fo oedd ddim i fod. Sut oedd hynny wedi digwydd?
'Da ni ddim yn gwybod sut. Roedd y cwmni oedd yn noddi fi yn derbyn yr ingredients o gwmni arall a rhywsut yn y broses maen nhw wedi cael eu contaminatio, ond 'da ni ddim yn gwybod sut. Mi alla' fod mor syml â rhywun heb olchi dwylo yn iawn neu rhywbeth arall yn y ffatri... dydan ni ddim yn siŵr.
A'r cynhwysyn dieithr 'ma oedd yn y ddiod, steroid oedd o?
Ie, wnes i testio'n positive am ddau anabolic steroid.
A beth fyddai effaith y steroid yma ar y corff?
Maen nhw'n bulking agent a pobl fatha weightlifters a sprinters sy'n cymryd anabolic steroids. Does 'na ddim benefit i fi fel rhedwr 800 metr, dim o gwbl.
Felly pwy benderfynodd dy fod am gymryd y supplements ma?
Wel, fi, y coach a'r management team. Roedd Rhys Williams efo'r [supplement] rhyw dri mis cyn fi a roedd lot o athletes eraill yn ei gymryd o. Roedd Jamie Baulch yn cael ei sponsro gan y cwmni 'ma. Mae nhw'n gwmni mawr a mae pawb yn 'nabod nhw.
Felly pan ges di dy brawf cyffuriau, oeddetti'n ymwybodol fod 'na broblem?
Na, dim byd. Ges i fy testio ddechrau Mehefin a da'th hwnnw nôl yn glir. Wedyn ges i fy testio bythefnos yn ddiweddarach a da'th hwnnw nôl yn positive!
Beth aeth drwy dy feddwl di?
Methu coelio'r peth. Dwi erioed wedi cymryd drygs. Oeddan nhw'n bethau diarth i mi. Pan ges i'r alwad ffôn, o'n i'n meddwl taw mistêc oedd o. Pan 'dach chi'n cael eich testio maen nhw'n cymryd dau sampl, yr A sample a'r B sample. Mae un yn cael ei anfon i ffwrdd a'i testio felly wnaethon ni ofyn i'r sampl arall gael ei destio eto, yn meddwl taw mistêc o'dd y result gwreiddiol, a ddaeth hwnnw nôl yn positive hefyd. Wedyn ro'n i'n gorfod dechrau sbio ar beth oeddwn i wedi bod yn gymryd.
Pryd wnes di sylweddoli beth oedd achos y broblem?
Bythefnos ar ôl i fi testio'n positive 'nath Rhys Williams testio'n positive ac oherwydd o'n i'n gw'bod fod ni'n cymryd yr un supplement ddechreuon ni feddwl mai hwnnw oedd y bai. 'Naethon ni yrru pob dim o'r supplements oedd yn y cwpwrdd i ffwrdd i gwmni 'naeth testio nhw am y ddau steroid oedd yn fy nghorff i ac yn lwcus 'naethon nhw ffeindio'r ddau yn y samplau yna.
Mi 'naeth yr awdurdodau dy gael yn euog o fod âsteroids yn dy gorff, ond mi naethon nhw dderbyn yn y pen draw nad oeddet ti na Rhys Williams wedi eu cymryd ar bwrpas?
Yn union. Ond mae nhw o'r farn os oes unrhywbeth yn eich corff chi ddylai ddim bod yna, eich bai chi ydi o, dim ots sut mae o 'di mynd yna, a dyna pam ges i chwe mis o ban.
Wyt ti'n derbyn mai dy fai di ydi o?
Ydw. Dwi'n derbyn fod 'na fai arna' i, a dwi'n derbyn y chwe mis o ban. Dwi'n meddwl fod o'n ddigon teg achos roedden nhw'n sôn am ddwy neu bedair blynedd o ban yn y dechra', a gan bod fi'n 31, bydda 'ngyrfa i wedi gorffen os fydda hynny wedi digwydd.
Mae Rhys Williams wedi dweud fod o wedi crio drwy'r cyfnod. Sut oeddet ti'n teimlo?
Nes i ddim crio. Dwi ddim yn dweud bod fi'n hogyn caled na dim, ond mae pethau pwysicach na chwaraeon. Nes i golli Gemau'r Gymanwlad oherwydd hyn a ro'n i wedi bod yn gweithio at hynny ers Llundain a'r Gemau Olympaidd felly o'n i'n flin a disappointed. Dyma oedd fy nghyfle i wisgo crys Cymru a chystadlu gyda'r gorau yn y byd. Ond cafodd hynna'i gymryd oddi wrtha'i.
Beth fydd effaith tymor hir y bennod hon ar dy yrfa?
'Dwi di colli pob noddwr o'n i efo, maen nhw wedi mynd, ond dwi'n gweithio i'w cael nhw'n nôl. Mae o wedi bod yn fusnes drud iawn. Gostiodd y broses o testio'r supplements £10,000... gostiodd hi £1,000 i testio'r B sample wnes i sôn amdano'n gynt.
Mae hi wedi bod yn broses ddrud iawn ac emosiynol iawn, ond roedd y teulu tu ôl i fi yr holl ffordd ac yn gwbod bod fi heb wneud dim byd yn rong yn fwriadol.
Rwan fod y gwaharddiad ar ben, beth ydi'r amcanion nesa' i ti?
Pan oedden nhw'n sôn am ddwy neu bedair mlynedd o ban, o'n i'n meddwl...dyna fo...mae o drosodd. Ond rwan dwi 'di gael o nôl dwi isho gwneud y mwyaf ohono fo.
Dwi'n edrych ymlaen at Bencampwriaeth y Byd yn Beijing a wedyn yr Olympics, ac yn gobeithio dal ymlaen tan Gemau'r Gymanwlad mewn tair blynedd yn Awstralia.
Dwi 'di cael y cyfle i wisgo crys Cymru... ond cafodd hynny ei gymryd oddi arna i. Bydda' ennill medal yn Awstralia yn golygu popeth.
Wedyn byddai'n crio falla'!
I wrando ar gyfweliad llawn a Gareth Warburton ar Dan y Wyneb ewch i wefan Radio Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2015