Gwaith yn cychwyn i adfer pont Aberdaron wedi difrod
- Cyhoeddwyd

Mae gwaith wedi cychwyn i adfer pont dros Afon Daron yn Aberdaron gafodd ei difrodi gan lori artic nos Lun.
Roedd gyrrwr y lori wedi mynd ar goll yn teithio o Abersoch i Bwllheli, a cheisiodd groesi'r bont yn Aberdaron pan aeth y cerbyd yn sownd a dymchwel darn tua 20 metr o wal y bont.
Mae'r bont ar agor i gerddwyr ond yn parhau ar gau i gerbydau nes bydd yr holl waith atgyweirio wedi'i gwblhau.
Cwmni arbenigol o Wynedd, Gwilym James Cyf, sydd â'r dasg o gwblhau'r gwaith, ac mae eu gweithwyr ar y safle yn clirio rwbel a gosod sgaffaldiau er mwyn dechrau'r gwaith trwsio.
'Cyswllt angenrheidiol'
Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: "Mae'r bont ar draws Afon Daron yn gyswllt angenrheidiol i bentref Aberdaron a'r ardal gyfagos.
"Rwyf felly yn hynod falch fod peirianwyr y cyngor wedi canfod contractwyr addas i gwblhau'r gwaith adfer ar fyr rybudd, a'u bod yn barod ar waith i adfer y bont.
"Yn y cyfamser, rydym yn sylweddoli fod hwn yn sefyllfa anodd i drigolion lleol a busnesau ac rydym yn gofyn am eu hamynedd dros yr wythnosau nesaf wrth i'r gwaith adfer gael ei gwblhau."
Bydd contractwyr yn gweithio ar y safle am y pythefnos nesaf i drwsio'r difrod, ac mae arwyddion wedi'u gosod yn y cyfamser i gynghori gyrwyr sy'n teithio i Rhiw i ddargyfeirio drwy Rhoshirwaun.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, cynrychiolydd Aberdaron ar Gyngor Gwynedd: "Rydym yn hynod ddiolchgar fod y Cyngor wedi gallu ymateb mor sydyn yn dilyn y digwyddiad.
"Mae pobl leol yn falch iawn bod gweithwyr eisoes ar waith yn delio a'r mater ac yn clirio'r safle cyn gall y gwaith adfer gychwyn."
Straeon perthnasol
- 3 Chwefror 2015