Cyn-oleudy ar werth am bron i £1 miliwn

  • Cyhoeddwyd
GoleudyFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae hen oleudy ar arfordir Penfro ar werth fel cartref moethus, am bron i £1 miliwn.

Mae gan "Yr Hen Oleudy" olygfeydd o Ynys Sgomer, Ynys Sgogwm ac Aber y Cleddau.

Mae goleudy wedi bod ar y safle yn Dale er oes Elisabeth I, gyda mynachod yn defnyddio tanau glo i oleuo'r ffordd i forwyr.

Mae'r tŷ moethus, gyda phwll nofio, ar werth am £975,000.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Mae goleudy wedi bod ar y clogwyn uwchben Dale ers canrifoedd.
Ffynhonnell y llun, Wales News Service