Asbestos: Dim gallu â'r Cynulliad i ddeddfu

  • Cyhoeddwyd
AsbestosFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,
Mae asbestos yn gallu achosi problemau iechyd difrifol, ac mae angen bod yn ofalus wrth ei drin

Mae'r Goruchaf Lys wedi penderfynu nad oes gan y Cynulliad y gallu i orfodi i gwmnïau dalu costau meddygol gweithwyr sydd â salwch oherwydd effeithiau asbestos.

Cafodd y ddeddf ei phasio gan Aelodau Cynulliad, ond roedd y diwydiant yswiriant yn herio'r penderfyniad yma.

Byddai cymeradwyo'r ddeddf wedi golygu bod rhaid i gwmnïau a busnesau ad-dalu'r Gwasanaeth Iechyd am gostau triniaeth gweithwyr sy'n dioddef oherwydd asbestos.

Dywedodd aelodau o'r diwydiant yswiriant bod y ddeddf yn mynd tu hwnt i bwerau deddfu'r Cynulliad.

'Setliad datganoli cymhleth'

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Mae Dyfarniad y Goruchaf Lys yn ategu ymhellach pa mor gymhleth yw'r setliad datganoli yng Nghymru.

"Fel y dywedais eisoes yn fy nghyflwyniad i Gomisiwn Silk, ac mewn datganiadau ar ôl Refferendwm yr Alban, mae angen mwy o eglurder arnom er mwyn ei gwneud yn haws i bawb ddeall beth sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

"Edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'w ddweud ar y mater hwn pan fydd yn gwneud ei gyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi ar ddyfodol setliad cyfansoddiadoldrur Cymru.

"Mae'r Rheolau Sefydlog yn caniatáu i'r Cynulliad ailystyried Bil os bydd y Goruchaf Lys yn canfod ei fod y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol. Byddaf yn trafod y mater ymhellach â'r aelod sy'n gyfrifol am y Bil i benderfynu beth yw'r ffordd orau ymlaen."

Cafodd y ddeddf ei chyflwyno gan yr Aelod Cynulliad Llafur dros Bontypridd, Mick Antoniw.

'Pwerau cyfyngedig'

Awgrymodd y gall y mesur ddod â hyd at £1 miliwn y flwyddyn i goffrau'r Gwasanaeth Iechyd.

Mae AC Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru, Lindsay Whittle, yn rhwystredig am benderfyniad y llys.

"Mae hyn yn esiampl arall ble mae pwerau cyfyngedig y Cynulliad yn ein rhwystro ni rhag cyflawni datrysiadau Cymraeg i broblemau Cymraeg," meddai.

Nid dyma'r tro cyntaf i ffrae dros ddatganoli gael ei phenderfynu yn y llysoedd. Llynedd mi wnaeth y Goruchaf Lys wrthod dadl Llywodraeth y DU nad oedd gan weinidogion Cymru'r pŵer i adfer y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol, pan ddaeth y corff i ben yn Lloegr.