BBC Cymru Fyw

M4 yn glir wedi tagfeydd o 15 milltir

Published
image copyrightTraffic Wales
Mae'r M4 bellach yn glir yn dilyn adroddiadau o draffig oedd yn stopio a chychwyn am 15 milltir mewn i Gaerdydd cyn gêm agoriadaol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad rhwng Cymru a Lloegr.
Roedd y tagfeydd ar y lôn orllewinol rhwng cyffordd 23 Rogiet a chyffordd 29 Caerdydd.
Ar un pryd roedd gyrwyr yn wynebu oedi o hyd at awr.