Canlyniadau Cwpan LV

  • Cyhoeddwyd

Dreigiau 17-13 Cymry Llundain

Llwyddodd y Dreigiau i guro Cymry Llundain o 17-13 yn y Cwpan LV brynhawn Sul.

Nid oedd hi'n fuddugoliaeth hawdd i'r tîm cartref, oedd ar ei hol hi o 13-3 erbyn yr egwyl.

Nick Scott sgoriodd cais yr ymwelwyr, gyda gweddill y pwyntiau yn dod o droed Tristan Roberts.

Ond daeth y Dreigiau yn ol yn gryf yn yr ail hanner, ac roedd ceisiau Tom Prydie a Richie Rees yn ogystal â chicio cywir Prydie yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Sale 38-3 Scarlets

Colli oedd hanes y Scarlets yn y Cwpan LV yn Sale brynhawn Sadwrn.

Heb eu chwaraewyr rhyngwladol doedd y Scarlets methu ymdopi gyda chryfder y tim cartref, wnaeth sgorio tri chais yn yr hanner cyntaf.

Dan Braid, Mike Haley a Tom Arscott sgoriodd cyn yr egwyl, gydag unig bwyntiau'r Scarlets yn dod o gic gosb Frazier Climo.

Aeth hi'n waeth i'r ymwelwyr yn yr ail hanner, a daeth tri chais ychwanegol gan Arscott, Viliami Fihaki a Tom Brady wedi pwysau gan y Sharks.

Gleision 9-43 Caerlyr

Mae Caerlŷr wedi sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth gyda buddugoliaeth dros y Gleision.

Y tîm cartref oedd ar y blaen am y rhan fwyaf o'r hanner cyntaf yng Nghaerdydd, wedi ciciau cosb gan Gareth Davies.

Ond sgoriodd Fraser Balmain y cyntaf o chwe chais i Gaerlŷr, cyn i Niall Morris groesi am yr ail cyn yr egwyl.

Daeth y ceisiau eraill gan David Mele, Tommy Bell ac Adam Thompstone i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus.

Caerfaddon 10-13 Gweilch

Y bachwr Matthew Dwyer oedd yr arwr i'r Gweilch wrth i'w gais hwyr sicrhau buddugoliaeth i'r Gweilch yn erbyn Caerfaddon.

Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf y Gweilch yn y gystadleuaeth, a dim ond yr ail dro i Gaerfaddon golli'r tymor hwn.

Y tîm cartref oedd ar y blaen ar yr egwyl wedi ceisiau gan Richard Lane a Max Lahiff, ond daeth y Gweilch yn ol yn hwyl gyda'r cais fuddugol.

Daeth gweddill pwyntiau'r Cymry o droed Sam Davies, wnaeth drosi'r cais a sgorio dwy gic gosb.

Er y fuddugoliaeth, ni fydd y Gweilch yn symud ymlaen i rownd nesaf y gystadleuaeth.