Abertawe 1-1 Sunderland
- Cyhoeddwyd

Peniad Ki Sung-yueng yn yr ail hanner wnaeth gipio pwynt i Abertawe mewn gem gyfartal yn erbyn Sunderland ddydd Sadwrn.
Sunderland aeth ar y blaen cyn yr egwyl drwy gol Jermain Defoe.
Rhedodd yr ymosodwr yn syth drwy amddiffyn yr Elyrch a saethu yn isel heibio Fabianski i'r rhwyd.
Fe wnaeth y tîm cartref greu cyfleoedd ar adegau, ond doedden nhw methu manteisio tan ar ôl awr o chwarae.
Kyle Naughton wnaeth greu'r gôl, gan groesi o'r asgell dde i Ki benio i'r rhwyd o'r cwrt chwech.
Mae Abertawe yn y nawfed safle yn yr Uwch Gynghrair, dau bwynt o flaen Stoke.