Sheffield Wednesday 1-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth cic o'r smotyn yn yr ail hanner gipio pwynt i Sheffield Wednesday ar ol i Gaerdydd arwain am ran fwyaf o'r gêm.
Kenwyne Jones sgoriodd i'r Adar Gleision yn gynnar yn y gêm, wrth i'r ymosodwr benio i'r rhwyd o groesiad Scott Malone.
Roedd mwy o gyfleoedd i'r ymwelwyr hefyd, ond doedd y chwaraewr newydd Eoin Doyle methu manteisio.
Daeth y gôl hollbwysig i Sheffield ar ol i Sergiu Bus gael ei daclo yn y cwrt cosbi, ac fe bwyntiodd y dyfarnwr at y smotyn.
Saethodd Will Keane, sydd ar fenthyg o Manchester United, heibio Moore i sicrhau'r pwynt.