Wimbledon 2-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Dwy gôl gan Adebayo Akinfenwa roddodd y dechrau gwaethaf i fywyd heb Justin Edinburgh i Gasnewydd yn Wimbledon.
Daeth cadarnhad bod Edinburgh wedi ei benodi yn reolwr Gillingham ddydd Sadwrn.
Sgoriodd Akinfenwa beniad cynnar, cyn i Joe Day arbed cic o'r smotyn gan yr ymosodwr ar ôl i Kevin Feely gael ei yrru o'r cae.
Ond fe wnaeth Akinfenwa ddyblu'r fantais gyda gôl 15 munud cyn ddiwedd y gêm.