Gateshead 2-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae Wrecsam wedi cyrraedd chwarteri Tlws yr FA wedi buddugoliaeth yn erbyn Gateshead.
2-2 oedd y sgôr ar ddiwedd 90 munud, ond Louis Moult sgoriodd y gôl hollbwysig wrth i'r enillydd gael ei benderfynu gan giciau o'r smotyn.
Valentin Gjokaj sgoriodd gyntaf i'r tim cartref, ond daeth Wrecsam yn ol yn gryf a rhwydodd Connor Jennings a Wes York.
Michael Rankine sgoriodd i Gateshead i orfodi amser ychwanegol, ond doedd yr un tim yn gallu sgorio yn yr hanner awr ychwanegol. 5-3 oedd y sgôr wedi ciciau o'r smotyn.