Achub dau gerddwr o'r Wyddfa
- Cyhoeddwyd

Mae dau gerddwr wedi eu hachub o'r Wyddfa gan hofrennydd yr Awyrlu ddydd Sadwrn.
Cafodd bachgen 12 oed oedd wedi anafu ei ffêr ei achub oddi ar ochr ddeheuol y mynydd, cyn i'r hofrennydd achub dyn oedd wedi ei anafu ar ochr arall y mynydd.
Cafodd y dyn ei gludo i ganolfan y tîm achub yn Llanberis.
Roedd rhaid cludo'r bachgen i'r ysbyty ym Mangor.